- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os ydynt wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad fod mewn ysgrifen a rhaid iddi neu iddo bennu—
(a)cyfeiriad y fangre;
(b)enw’r meddiannydd; ac
(c)y diben y’i rhoddir ar ei gyfer.
(3) Caniateir i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad gael ei gwneud neu ei wneud yn ddarostyngedig i’r amodau hynny sy’n angenrheidiol er mwyn—
(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn; neu
(b)diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
(4) Pan fônt yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad, neu’n rhoi un yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi rhesymau mewn ysgrifen; a
(b)egluro bod hawl gan y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(5) Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys.
8. Mae meddiannydd unrhyw fangre a gymeradwyir, a awdurdodir, a drwyddedir neu a gofrestrir o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd oni bai ei fod yn sicrhau—
(a)bod y fangre yn cael ei chynnal a’i gweithredu yn unol ag—
(i)unrhyw amod o’r gymeradwyaeth, yr awdurdodiad, y drwydded neu’r cofrestriad;
(ii)gofynion Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn; a
(b)bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i’r fangre, yn cydymffurfio â’r amodau a’r gofynion hynny.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
(a)os na chyflawnwyd unrhyw un neu ragor o’r amodau y’i rhoddwyd oddi tanynt; neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE neu ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol yng ngoleuni datblygiadau technegol neu wyddonol.
(3) Mewn perthynas ag ataliad dros dro neu ddiwygiad—
(a)caiff gael effaith ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a
(b)fel arall, caiff gael effaith ar ôl i gyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf ddod i ben.
(4) Rhaid i’r hysbysiad am yr ataliad dros dro neu’r diwygiad—
(a)bod mewn ysgrifen;
(b)datgan pa bryd y bydd yr ataliad dros dro neu’r diwygiad yn cael effaith;
(c)rhoi’r rhesymau; a
(d)egluro bod hawl gan y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(5) Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys.
(6) Os nad yw’r ataliad dros dro neu’r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau’n cael eu cyflwyno o dan reoliad 11, ni chaiff gael effaith hyd nes bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar yr apêl yn derfynol, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r ataliad dros dro neu’r diwygiad gael effaith cyn hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na fydd y fangre yn cael ei rhedeg yn unol â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn ac—
(a)os yw wedi ei hatal neu ei atal dros dro ar hyn o bryd a’r cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 11 wedi dod i ben neu’r ataliad dros dro wedi ei gadarnhau yn dilyn apêl o’r fath;
(b)os oedd wedi ei hatal neu ei atal dros dro yn flaenorol ac y bu anghydffurfio pellach â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn; neu
(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r meddiannydd bellach yn defnyddio’r fangre at y diben y’i rhoddwyd ar ei gyfer.
(2) Rhaid i’r hysbysiad am y dirymiad—
(a)bod mewn ysgrifen;
(b)datgan pa bryd y bydd y dirymiad yn cael effaith;
(c)rhoi’r rhesymau; a
(d)egluro bod hawl gan y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys, ond bydd y dirymiad yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio honno.
11.—(1) Pan fo’r weithdrefn apelio yn y rheoliad hwn yn gymwys, caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl hysbysu’r person hwnnw am y penderfyniad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad o fewn 21 o ddiwrnodau i gael sylwadau’r apelydd.
(3) Yna rhaid i’r person a benodir gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd am benderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru a’r rhesymau drosto.
(5) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen cymryd camau ar unwaith er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd neu les anifeiliaid, ni chaniateir iddynt ladd unrhyw anifail na difa unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau wedi dod i ben heb i unrhyw apêl gael ei chyflwyno; neu
(b)os gwneir apêl, hyd nes i’r apêl honno gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
12.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prisiad yn angenrheidiol o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad.
(3) Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad, cânt enwebu prisiwr ar y cyd i gynnal prisiad.
(4) Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar bwy ddylai’r prisiwr fod, rhaid i’r prisiad gael ei gynnal gan brisiwr sydd â’i enw ar restr a gynhelir gan Weinidogion Cymru, ac a enwebir gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan Lywydd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol, yn ôl fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i’r prisiwr gynnal y prisiad a’i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennaeth berthnasol arall i Weinidogion Cymru, a darparu copi i’r perchennog.
(6) Mae hawl gan y perchennog a chynrychiolydd Gweinidogion Cymru i fod yn bresennol yn ystod prisiad.
(7) Mae’r prisiad yn rhwymo’r perchennog a Gweinidogion Cymru.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”) yw perchennog yr anifail neu’r cynnyrch o dan sylw.
13.—(1) Ac eithrio fel a bennir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru a’r awdurdod lleol benodi arolygwyr at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd benodi arolygwyr at ddibenion gorfodi Atodlenni 7 ac 8 mewn perthynas â lladd-dy neu safle torri.
(3) Caniateir i benodiad arolygydd (pa un ai o dan baragraff (1) neu (2)) fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau a bennir yn y penodiad.
14.—(1) Caiff arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio os defnyddir hi yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) ar unrhyw adeg resymol at ddiben gweithredu neu orfodi Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos rhyw ddogfen sydd wedi ei dilysu yn briodol ac sy’n dangos ei awdurdod cyn arfer ei hawl o dan baragraff (1).
(3) Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd o dan baragraff (1) yn gymwys pan fo—
(a)y meddiannydd wedi hepgor y gofyniad;
(b)ymdrechion rhesymol i adnabod y meddiannydd wedi methu;
(c)ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu; neu
(d)pan fo gan arolygydd amheuaeth resymol o fethiant i gydymffurfio â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn.
(4) Caiff arolygydd fynd â’r personau eraill hynny y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol gydag ef.
(5) Os yw arolygydd yn mynd i unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu neu (pan fo’r fangre wedi ei meddiannu) os yw meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, rhaid iddo adael y fangre honno (i’r graddau y bo’n ymarferol resymol) wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag ydoedd cyn dyfodiad yr arolygydd.
(6) Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth mewn ysgrifen ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) at ddibenion gorfodi Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn, a—
(a)bod mynediad wedi ei wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o gais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn;
(c)bod yr achos yn achos brys; neu
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant a lofnodwyd, awdurdodi arolygydd i fynd i’r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.
(7) Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am un mis.
15.—(1) Caiff arolygydd—
(a)ymafael yn unrhyw—
(i)anifail;
(ii)corff anifail, ac unrhyw rannau o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(iii)protein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid; neu
(iv)llaeth neu gynnyrch llaeth,
a’u gwaredu yn ôl yr angen;
(b)cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;
(c)casglu, corlannu ac arolygu unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn caiff ei gwneud yn ofynnol bod ceidwad unrhyw anifail o’r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu’r anifail;
(d)arolygu unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(e)arolygu unrhyw ran o’r fangre, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;
(f)cymryd unrhyw samplau;
(g)ymafael yn unrhyw basbort gwartheg neu ei gadw;
(h)cael mynediad i unrhyw gofnodion (ym mha ffurf bynnag y’u delir), eu harolygu a’u copïo, er mwyn penderfynu a gydymffurfir â’r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn, neu fynd â chofnodion o’r fath ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo;
(i)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod, eu harolygu a gwirio eu gweithrediad; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu’r cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n gysylltiedig fel arall â’u gweithredu, yn rhoi iddo ba bynnag gymorth y mae’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol (gan gynnwys darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol iddo), a phan gedwir cofnod ar gyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy’n caniatáu eu cludo ymaith;
(j)marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at y diben o’i adnabod; a
(k)cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.
(2) Mae unrhyw berson sy’n difwyno, yn difodi neu’n tynnu unrhyw farc neu sêl, neu’n tynnu unrhyw glo, a osodwyd o dan baragraff (1) yn cyflawni trosedd.
(3) Nid yw arolygydd yn atebol yn bersonol am unrhyw beth a wneir—
(a)wrth weithredu neu honni gweithredu’r Rheoliadau hyn; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os oedd yr arolygydd yn gweithredu gan gredu yn onest bod dyletswydd yr arolygydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei wneud, neu’n rhoi’r hawl iddo i’w wneud; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd ar ran cyflogwr yr arolygydd.
16.—(1) Os yw hynny’n angenrheidiol, am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â gorfodi Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad—
(a)i berchennog neu geidwad unrhyw anifail;
(b)i’r person sy’n meddu ar gorff neu unrhyw ran o gorff anifail (gan gynnwys y gwaed a’r croen) neu unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(c)i’r person sy’n meddu ar unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, neu sy’n eu cyflenwi; neu
(d)i berchennog, neu’r person sy’n meddu ar, unrhyw laeth neu gynhyrchion llaeth.
(2) Rhaid i’r hysbysiad fod mewn ysgrifen.
(3) Caiff yr hysbysiad—
(a)gwahardd neu ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw anifail i mewn neu allan o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(b)gwahardd symud unrhyw laeth neu gynhyrchion llaeth o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(c)pennu’r rhannau hynny o’r fangre y caniateir neu na chaniateir i anifail gael mynediad iddynt;
(d)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw anifail yn cael ei ladd neu ei gigydda;
(e)gwahardd neu ei gwneud yn ofynnol symud corff unrhyw anifail neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail, unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, ac unrhyw semen, embryo neu ofwm anifeiliaid i mewn neu allan o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(f)ei gwneud yn ofynnol bod corff neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail (pa un a yw’n anifail yr oedd yn ofynnol ei ddal dan gadw ai peidio) ac unrhyw semen, embryo, ofwm, llaeth neu gynnyrch llaeth a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu gwaredu;
(g)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu gwaredu neu bennu sut y maent i’w defnyddio;
(h)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu hadalw;
(i)ei gwneud yn ofynnol bod meddiannydd lladd-dy—
(i)yn cymryd sampl o anifeiliaid yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2, neu
(ii)yn caniatáu i filfeddyg swyddogol gymryd sampl o anifeiliaid yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2;
(j)ei gwneud yn ofynnol bod y fangre gyfan neu unrhyw ran o’r fangre (ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig) yn cael eu glanhau a’u diheintio pan fo arolygydd yn amau bod risg i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu
(k)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam y mae arolygydd yn credu’n rhesymol ei fod yn angenrheidiol er mwyn rheoli lledaeniad clefyd.
(4) Caiff hysbysiad bennu’r modd y bydd rhaid cydymffurfio â’r hysbysiad, a phennu terfynau amser.
(5) Rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac oni chydymffurfir ag ef caiff arolygydd drefnu ar gyfer cydymffurfio ag ef ar draul y person hwnnw.
(6) Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd.
17.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu ar unrhyw adeg.
(2) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath drwy—
(a)ei ddanfon i’r person;
(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person; neu
(c)ei anfon at y person drwy’r post neu drwy gyfrwng electronig yn y cyfeiriad hwnnw.
(3) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—
(a)yn achos corff corfforaethol, i un o swyddogion y corff;
(b)yn achos partneriaeth, i bartner neu berson a chanddo reolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth; ac
(c)yn achos cymdeithas anghorfforedig, i un o swyddogion y gymdeithas.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “priod gyfeiriad” (“proper address”) yw—
(a)yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff hwnnw—
(i)cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw, neu
(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog;
(b)yn achos partneriaeth, partner neu berson a chanddo reolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth—
(i)cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu
(ii)cyfeiriad e-bost y partner neu’r person a chanddo’r rheolaeth honno, neu sy’n rheoli felly;
(c)yn achos cymdeithas anghorfforedig neu un o swyddogion y gymdeithas—
(i)cyfeiriad prif swyddfa’r gymdeithas, neu
(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog; a
(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer person, gan gynnwys cyfeiriad e-bost.
(5) At ddiben paragraff (4), prif swyddfa corff corfforaethol sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd a sefydlwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
(6) Os na ellir dod o hyd i enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael wedi ei osod yn weladwy ar adeilad neu wrthrych yn y fangre.
(7) Caiff hysbysiad bennu bod person sy’n ei gael yn rhoi gwybod ar unwaith i arolygydd ei fod wedi ei gael yn ddiogel.
(8) Rhaid i berson gydymffurfio â thelerau unrhyw hysbysiad a gyflwynir, a roddir neu a arddangosir o dan y Rheoliadau hyn.
(9) Yn y rheoliad hwn—
mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig,
ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol,
nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig,
ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o’r corff corfforaethol.
18.—(1) Os cyflwynir hysbysiad sy’n cyfyngu ar symudiadau unrhyw anifail neu gynnyrch, caiff arolygwyr wedi hynny ganiatáu symud o dan awdurdod trwydded.
(2) Rhaid i’r person sy’n cludo’r anifail neu’r cynnyrch o dan awdurdod trwydded fynd â’r drwydded gydag ef yn ystod unrhyw symudiad, a’i dangos i unrhyw arolygydd sy’n gofyn am gael ei gweld, ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
19. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
(b)heb achos rhesymol, yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn neu’n methu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae’r arolygydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw yn eu rhoi neu’n eu darparu er mwyn i’r arolygydd gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c)yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
(d)yn methu â dangos cofnod pan fo’n ofynnol iddo wneud hynny gan arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
(e)yn methu â chydymffurfio â gofynion unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd neu a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hyn; neu
(f)yn methu â chydymffurfio â’r gofynion TSE.
20. Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
21.—(1) Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
mae’r swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn agored i gael ei erlyn.
(2) Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’n un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner; neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
mae’r partner yn ogystal â’r bartneriaeth yn agored i gael ei erlyn.
(4) Os dangosir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, ac eithrio partneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu; neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu’r aelod hwnnw,
mae’r swyddog neu’r aelod hwnnw yn ogystal â’r gymdeithas yn agored i gael ei erlyn.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner; ac
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.
22.—(1) Gorfodir Atodlen 2 mewn lladd-dai a safleoedd torri gan Weinidogion Cymru.
(2) Gorfodir Atodlen 7 a pharagraff 1 o Atodlen 8 mewn lladd-dai a safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(3) Fel arall, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.
(4) Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodir ar yr awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru, ac nid gan yr awdurdod lleol.
23.—(1) Yn Atodlen 3 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(1), yn lle “Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008” rhodder “Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018”.
(2) Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 20(a) (cosbau), hepgorer “nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol”;
(b)yn rheoliad 29(1) (darpariaeth drosiannol), hepgorer “ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014,”;
(c)yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 7.
24. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(3);
(b)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008(4);
(c)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009(5);
(d)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010(6);
(e)Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006(7);
(f)Rheoliadau Crwyn Gwartheg 1997(8); ac
(g)Rheoliadau Difa Detholus (Gorfodi Amodau Digolledu’r Gymuned) 1996(9).
25. Mae unrhyw hysbysiad, cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a ddyroddwyd, a gyflwynwyd, a wnaed neu a roddwyd o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 ac sy’n cael effaith pan fo’r Rheoliadau hyn yn dod i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei dyroddi, ei gyflwyno neu ei chyflwyno, ei wneud neu ei gwneud, neu ei roi neu ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: