Rheoliad 5(4)
ATODLEN 1Y gofynion TSE
Pwnc y gofyniad | Darpariaethau Rheoliad TSE yr UE |
---|---|
1. Gwaharddiad sy’n ymwneud â bwydo protein sy’n deillio o anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil | Erthygl 7 |
2. Tynnu deunydd risg penodedig o garcasau | Erthygl 8 ac Atodiad 5 |
3. Cynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o ddeunydd anifeiliaid cnoi cil, neu o ddeunydd sy’n ei gynnwys | Erthygl 9 ac Atodiad 6 |
4. Hyfforddi personau sy’n gweithio mewn rolau sy’n ymwneud â TSEs | Erthygl 10 |
5. Gofyniad hysbysu | Erthygl 11 |
6. Cyfyngiadau ar symud a mesurau i ymchwilio i anifeiliaid sydd o dan amheuaeth | Erthygl 12 |
7. Mesurau yn dilyn cadarnhad bod TSE yn bresennol | Erthygl 13 ac Atodiadau 3 a 4 |
8. Amodau ar gyfer rhoi anifeiliaid byw, semen, embryonau ac ofa ar y farchnad | Erthygl 15 ac Atodiadau 8 a 9 |
9. Amodau ar gyfer rhoi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ar y farchnad | Erthygl 16 ac Atodiadau 8 a 9 |
10. Ychwanegu at wybodaeth tystysgrif iechyd gyda dosbarthau categori | Erthyglau 17 a 18 ac Atodiad 4 a ddarllenir gydag Atodiad F i Gyfarwyddeb 64/432/EEC(1)ac Atodiad E i Gyfarwyddeb 91/68/EEC(2) |
11. Amodau ar gyfer labordai cyfeirio a’u swyddogaethau a’u dyletswyddau | Erthygl 19 ac Atodiad 10 |
12. Amodau ar gyfer samplu a dulliau labordai | Erthygl 20 ac Atodiad 10 |
(1)
Cyfarwyddeb y Cyngor dyddiedig 26 Mehefin 1964 ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned OJ Rhif P 121, 29.7.1964, t. 1977 a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/819, OJ Rhif L 129, 27.5.2015, t. 28.
(2)
Cyfarwyddeb y Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 1991 ar gyflyrau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu masnach mewn anifeiliaid defeidiog a gafraidd o fewn y Gymuned OJ Rhif L 46, 19.2,1991, t. 19 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2002, OJ Rhif L 308, 16.11.2016, t. 29.