- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 6(f)
1. Rhaid i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyflawni’r dyletswyddau a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11.1 a phwynt 11.2 o Atodiad V mewn perthynas â’r Atodlen hon, a chaiff roi awdurdodiadau i safle torri ar gyfer tynnu madruddyn y cefn o anifeiliaid defeidiog a gafraidd.
2. Rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy neu safle torri lle y mae deunydd risg penodedig yn cael ei dynnu—
(a)sicrhau bod staff yn cael unrhyw hyfforddiant sydd ei angen i sicrhau bod y meddiannydd yn cydymffurfio â dyletswyddau’r meddiannydd o dan yr Atodlen hon; a
(b)cadw cofnod o hyfforddiant pob person cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn gweithio yno,
ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
3.—(1) Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â phwynt 5 o Atodiad V (mesurau ynghylch cig a wahenir yn fecanyddol) yn cyflawni trosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy’n defnyddio unrhyw gig a wahanwyd yn fecanyddol a gynhyrchwyd yn groes i’r pwynt hwnnw wrth baratoi unrhyw fwyd i’w werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu unrhyw fwydydd anifeiliaid yn cyflawni trosedd.
4. Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â phwynt 6 o Atodiad V (mesurau ynghylch rhwygo meinweoedd) yn cyflawni trosedd.
5. Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â phwynt 7 o Atodiad V (cynaeafu tafodau o anifeiliaid buchol) yn cyflawni trosedd.
6. Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â phwynt 8 o Atodiad V (cynaeafu cig pen buchol) yn cyflawni trosedd.
7.—(1) Mae unrhyw berson sy’n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre neu fan ar wahân i fangre neu fan lle caniateir tynnu’r deunydd risg penodedig hwnnw yn unol ag Atodiad V yn cyflawni trosedd.
(2) Yn achos safle torri, mae tynnu’r canlynol yn drosedd—
(a)unrhyw ran o asgwrn y cefn sy’n ddeunydd risg penodedig o unrhyw anifail buchol, oni bai bod y safle wedi ei awdurdodi o dan baragraff 13(1)(a); neu
(b)madruddyn y cefn o unrhyw anifail defeidiog neu afraidd sydd dros 12 mis oed ar adeg ei gigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy’r deintgig, oni bai bod y safle wedi ei awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b) at y diben o dynnu deunydd o’r fath.
8.—(1) Pan gigyddir anifail buchol mewn lladd-dy, neu pan gludir carcas anifail buchol i ladd-dy ar ôl ei gigydda mewn man arall fel mesur argyfwng, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu’r holl ddeunydd risg penodedig o’r carcas (ar wahân i’r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy’n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn arolygiad post-mortem.
(2) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl arolygiad post-mortem, traddodi unrhyw offal sydd wedi ei dynnu o’r carcas ac sy’n cynnwys neu sy’n gysylltiedig â deunydd risg penodedig i ran briodol o’r lladd-dy; a
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r offal gael ei draddodi yno ac ym mhob achos cyn i’r offal gael ei symud o’r lladd-dy, tynnu’r deunydd risg penodedig.
(3) Rhaid i’r meddiannydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cigydda, draddodi unrhyw gig sy’n cynnwys y rhannau hynny o’r asgwrn cefn sy’n ddeunydd risg penodedig i—
(a)safle torri sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 13(1)(a);
(b)safle torri a leolir mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy’n gymwys yn y rhan honno; neu
(c)Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10.2 o Atodiad V.
(4) Rhaid i’r meddiannydd nodi cig sy’n cynnwys asgwrn y cefn nad yw’n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 11.3(a) o Atodiad V a darparu gwybodaeth yn unol â phwynt 11.3(b) o’r Atodiad hwnnw.
(5) Rhaid i’r meddiannydd labelu carcasau neu ddarnau cyfanwerthu sy’n cynnwys asgwrn y cefn yn unol â phwynt 11.3(a) o Atodiad V.
(6) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
9.—(1) Pan gigyddir anifail defeidiog neu afraidd mewn lladd-dy, neu pan gludir carcas anifail defeidiog neu afraidd i ladd-dy ar ôl ei gigydda mewn man arall fel mesur argyfwng, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu’r holl ddeunydd risg penodedig o’r carcas (ar wahân i fadruddyn y cefn) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn arolygiad post-mortem.
(2) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl arolygiad post-mortem, traddodi unrhyw offal sydd wedi ei dynnu o’r carcas ac sy’n cynnwys neu sy’n gysylltiedig â deunydd risg penodedig i ran briodol o’r lladd-dy; a
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r offal gael ei draddodi yno ac ym mhob achos cyn i’r offal gael ei symud o’r lladd-dy, tynnu’r deunydd risg penodedig.
(3) Yn achos anifail defeidiog neu afraidd sydd dros 12 mis oed ar adeg ei gigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy’r deintgig, rhaid i’r meddiannydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda—
(a)tynnu madruddyn y cefn yn y lladd-dy yn ddi-oed yn dilyn yr arolygiad post-mortem; neu
(b)anfon y cig i—
(i)safle torri sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b);
(ii)safle torri a leolir mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy’n gymwys yn y rhan honno; neu
(iii)yn unol â phwynt 10.1 o Atodiad V, safle torri a leolir mewn Aelod-wladwriaeth arall.
(4) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
10.—(1) Pan fydd anifail buchol, defeidiog neu afraidd yn cael ei gigydda mewn man sydd, at ddibenion pwynt 4.1(a) o Atodiad V, yn fan cigydda arall, rhaid i’r person sy’n ymgymryd â’r cigydda dynnu’r holl ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda.
(2) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
11.—(1) Caiff arolygydd stampio anifail defeidiog neu afraidd mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc, yn y drefn honno, os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri drwy’r deintgig, ac os nad yw’r ddogfennaeth sy’n gysylltiedig â’r anifail, os oes dogfennaeth o’r fath, yn dangos ei fod dros 12 mis oed ar adeg ei gigydda.
(2) Rhaid i’r stamp farcio’r cig gyda chylch sy’n 5 centimetr mewn diamedr ac yn cynnwys y canlynol mewn llythrennau bras 1 centimetr o uchder—
(a)“MHS”; a
(b)yn achos—
(i)anifail defeidiog, “YL”; neu
(ii)anifail gafraidd, “YG”.
(3) Mae’n drosedd i unrhyw berson ac eithrio arolygydd osod y stamp neu farc tebyg iddo, neu fod â chyfarpar ar gyfer ei osod yn ei feddiant.
(4) Mae’n drosedd marcio anifail defeidiog neu anifail gafraidd gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc neu stamp sy’n debyg iddynt oni bai bod yr anifail yn un y caniateir ei farcio yn unol ag is-baragraff (1).
12.—(1) Mae’n drosedd tynnu madruddyn y cefn neu unrhyw ran ohono o anifail defeidiog neu afraidd sydd dros 12 mis oed ar adeg ei gigydda neu a oedd ag un neu fwy o’i flaenddannedd parhaol wedi torri drwy’r deintgig (ac eithrio at ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio drwy—
(a)hollti’r holl asgwrn cefn yn hydredol;
(b)tynnu ymaith doriad hydredol o’r holl asgwrn cefn gan gynnwys madruddyn y cefn; neu
(c)dull arall a gymeradwywyd yn unol ag is-baragraff (2).
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd gymeradwyo dull arall o dynnu ymaith mewn daliad penodedig ar yr amod bod meddiannydd y daliad yn dangos er boddhad yr Asiantaeth—
(a)bod y dull yn briodol er mwyn cyflawni amcanion Rheoliad TSE yr UE;
(b)bod y cyfarpar a ddefnyddir i dynnu ymaith yn gwbl effeithiol; ac
(c)bod y personau sy’n defnyddio’r cyfarpar wedi eu hyfforddi’n briodol ac yn fedrus o ran ei ddefnyddio a’i gynnal.
13.—(1) Os yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ei bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Atodiad V a’r Atodlen hon, caiff yr Asiantaeth awdurdodi safle torri i—
(a)tynnu’r rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol sy’n ddeunydd risg penodedig; neu
(b)tynnu madruddyn y cefn o anifeiliaid defeidiog a gafraidd sydd dros 12 mis oed ar adeg eu cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy’r deintgig, neu
(c)cynaeafu cig y pen o anifeiliaid buchol yn unol â phwynt 9 o Atodiad V.
(2) Mae’r gweithdrefnau yn rheoliadau 7, 9, 10 ac 11 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at Weinidogion Cymru fel pe baent yn gyfeiriadau at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
14. Mae meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1) yn cyflawni trosedd oni fydd yn tynnu o’r cig yr holl ddeunydd risg penodedig o’r math y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cig gyrraedd y safle, ac mewn unrhyw achos cyn i’r cig gael ei symud o’r safle.
15. At ddibenion pwynt 10.1 a phwynt 10.2 o Atodiad V, pan gludir carcas sy’n cynnwys y rhannau hynny o asgwrn cefn anifail buchol sy’n ddeunydd risg penodedig i Gymru o Aelod-wladwriaeth, rhaid i’r mewnforiwr ei anfon ar ei union i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a), ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
16.—(1) Mae meddiannydd unrhyw fangre lle y tynnir deunydd risg penodedig yn cyflawni trosedd os yw’r meddiannydd hwnnw yn methu â chydymffurfio â phwynt 3 o Atodiad V (marcio a gwaredu).
(2) At ddibenion y pwynt hwnnw—
(a)mae staenio yn golygu trin y deunydd (pa un ai drwy drochi, chwistrellu neu daenu rywfodd arall) gyda chyfrwng lliwio glas gan ddefnyddio toddiant sy’n ddigon cryf fel bod y staen yn hollol weladwy ac yn parhau’n weladwy ar ôl i’r deunydd risg penodedig gael ei oeri neu ei rewi; a
(b)rhaid taenu’r staen yn y fath fodd fel bod y lliw yn hollol weladwy ac yn parhau felly—
(i)dros holl arwyneb y toriad a’r rhan fwyaf o’r pen yn achos pen anifail defeidiog neu afraidd; a
(ii)yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros holl arwyneb y deunydd.
17.—(1) Hyd nes y traddodir neu y gwaredir y deunydd o’r fangre neu’r man lle y’i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei wahanu’n ddigonol oddi wrth unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol, a’i gadw mewn cynhwysydd anhydraidd sydd â chaead arno a label i nodi ei fod yn cynnwys naill ai—
(a)deunydd risg penodedig; neu
(b)sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 ac yn dwyn y geiriau “For disposal only”.
(2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi’n drylwyr cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol bob tro y caiff ei wagio, a’i ddiheintio cyn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
(3) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
18. Mae’n drosedd gwerthu neu gyflenwi’r canlynol, neu feddu ar y canlynol ar gyfer ei werthu neu ei gyflenwi—
(a)unrhyw ddeunydd risg penodedig, neu unrhyw fwyd sy’n cynnwys deunydd risg penodedig, ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu
(b)unrhyw ddeunydd risg penodedig i’w ddefnyddio i baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: