- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw berson—
(a)sydd wedi ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â swyddogaethau GGAD; a
(b)sydd wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig gan ei gyflogwr cyn y dyddiad trosglwyddo ei fod i’w drosglwyddo i AaGIC.
(2) Mae contract cyflogaeth unrhyw berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i’w drosglwyddo i AaGIC.
(3) O ran contract cyflogaeth person y mae ei gyflogaeth wedi ei throsglwyddo i AaGIC o dan baragraff (2)—
(a)nid yw’r trosglwyddiad yn ei derfynu; a
(b)mae’n cael effaith o’r dyddiad trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw ac AaGIC.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3)—
(a)mae holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth GIG Felindre o dan gontract cyflogaeth unrhyw berson y trosglwyddwyd ei gyflogaeth i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo o dan baragraff (2), neu mewn cysylltiad â’r contract hwnnw, i’w trosglwyddo i AaGIC; a
(b)bernir bod unrhyw weithred neu anweithred cyn y dyddiad trosglwyddo gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre neu mewn perthynas â hi, mewn cysylltiad â’r person hwnnw neu gontract cyflogaeth y person hwnnw, yn weithred neu anweithred gan AaGIC neu mewn perthynas ag ef.
(5) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn cael effaith i drosglwyddo contract cyflogaeth person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef, os yw’r person hwnnw, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn rhoi gwybod i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ei fod yn gwrthwynebu dod yn gyflogedig gan AaGIC.
(6) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wedi gwrthwynebu trosglwyddo ei gontract cyflogaeth i AaGIC fel y’i disgrifir ym mharagraff (5), mae’r trosglwyddiad yn gweithredu er mwyn terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid yw person y mae ei gontract cyflogaeth yn cael ei derfynu yn unol â pharagraff (6) i’w drin, at unrhyw ddiben, fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.
(8) Pan fo’r trosglwyddiad yn golygu, neu pan fyddai’n golygu, newid sylweddol yn yr amodau gwaith gan arwain at niwed sylweddol i berson y mae ei gyflogaeth yn cael ei throsglwyddo neu y byddai ei gyflogaeth wedi cael ei throsglwyddo o dan baragraff (2), caiff y person hwnnw drin y contract cyflogaeth fel pe bai wedi cael ei derfynu, ac mae’r person hwnnw i’w drin at unrhyw ddiben fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.
(9) Nid yw unrhyw iawndal i fod yn daladwy gan gyflogwr o ganlyniad i ddiswyddo sy’n dod o fewn paragraff (8) mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant gan y cyflogwr i dalu cyflog i berson mewn cysylltiad â chyfnod rhybudd y mae’r person wedi methu â’i weithio.
(10) Nid yw paragraffau (2), (3), a (5) i (8) yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan berson sy’n codi ar wahân i’r erthygl hon i derfynu contract cyflogaeth y person hwnnw heb rybudd wrth dderbyn tor contract ymwrthodol gan y cyflogwr.
(11) Mae cofnodion Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy’n ymwneud â chyflogaeth y personau hynny y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt ac y mae eu contractau cyflogaeth i’w trosglwyddo i AaGIC yn unol â’r erthygl hon i’w trosglwyddo i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: