4.—(1) Mae unrhyw eiddo neu dir a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac a nodir yn yr Atodlen i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i AaGIC.
(2) Gydag effaith o’r dyddiad trosglwyddo ymlaen, bydd y cynnwys yn neu ar yr eiddo neu’r tir a nodir yn yr Atodlen a’r holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a chofnodion eraill sy’n ymwneud ag ef y mae gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre hawlogaeth iddynt neu y mae’n ddarostyngedig iddynt, yn cael eu trosglwyddo i AaGIC.
(3) Mae holl rwymedigaethau Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy’n ymwneud â’r eiddo a nodir yn yr Atodlen i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i AaGIC.
(4) Mae unrhyw hawl sy’n ymwneud â thir neu eiddo a nodir yn yr Atodlen a oedd yn orfodadwy gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu yn ei herbyn, cyn y dyddiad trosglwyddo i fod, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn orfodadwy gan AaGIC neu yn ei erbyn.
(5) Bydd unrhyw eiddo, buddiannau, hawliau neu rwymedigaethau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac eithrio’r rhai hynny a restrir yn yr Atodlen a ddefnyddir neu a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a hynny yn unig neu yn bennaf—
(a)ar gyfer cyflawni swyddogaethau GGAD; neu
(b)mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau GGAD;
yn trosglwyddo i AaGIC ar y dyddiad trosglwyddo.