Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1017 (Cy. 177)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

11 Mehefin 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mehefin 2019

Yn dod i rym

5 Gorffennaf 2019

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5, ym mharagraffau (2) a (4), yn lle “Adran yr Amgylchedd”, rhodder “unrhyw gyngor dosbarth”.

(3Yn rheoliad 7(1)(b), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.

Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” ym mharagraff (b), yn lle “Adran yr Amgylchedd” rhodder “cyngor dosbarth”.

(3Yn rheoliad 5(5)(c), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.

Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019

4.—(1Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (1) ar ôl y gair “hysbysiad” mewnosoder “drwy hysbyseb leol”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) gyntaf fod yn ddim llai na dwy wythnos sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer dechrau’r ymchwiliad.;

(c)hepgorer paragraff (2);

(d)ym mharagraff (3), yn lle “pharagraffau (1) a (2)” rhodder “pharagraff (1)”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad”), Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gweithdrefn Ymchwiliadau”) a Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau”).

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad a’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau, yn y drefn honno. Maent yn rhoi cyfeiriadau at “cyngor dosbarth” yn lle “Adran yr Amgylchedd” yng Ngogledd Iwerddon er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cynllunio (Gogledd Iwerddon) 2011 a oedd yn trosglwyddo’r mwyafrif o swyddogaethau cynllunio a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau i gynghorau dosbarth. Maent hefyd yn rhoi’r geiriau “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon” yn lle “cenedlaethol”.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 16 o’r Rheoliadau Gweithdrefn Ymchwiliadau er mwyn diffinio “drwy hysbyseb leol” ac er mwyn rhagnodi pryd y mae rhaid cyhoeddi gyntaf yr hysbysiad am yr ymchwiliad sy’n ofynnol gan reoliad 16(1). Gwneir mân ddiwygiadau eraill i reoliad 16.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1989 p. 29. Mewnosodwyd adran 36(8A) gan adran 69(1) a pharagraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mewnosodwyd adran 36C gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Diwygiwyd adran 36C(6) gan adran 39(12) o Ddeddf 2017. Mae diwygiadau eraill i adran 36C nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.