RHAN 2DIWYGIADAU
Diwygiadau i Atodlen 24.
(1)
Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff 1(2)(d) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(3)
Ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)
yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b)
yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(4)
Ym mharagraff 7(1)(d) ac (e) (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(5)
Ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—
(a)
“(a)
sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)
yn wladolyn UE,
(ii)
yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii)
yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),”;
(b)
yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c)
“(1A)
Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(d)
yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(e)
yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(f)
“(4)
At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(6)
“Categori 9 – Plant gwladolion Swisaidd9.
(1)
Person—
(a)
sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b)
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)
mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2)
Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.”
(7)
Ym mharagraff 10(1)(c) (categori 10 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(8)
Ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—
(a)
ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b)
yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.