Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

5.  Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 21(2)—

(i)ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;

(ii)ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;

(iii)ar ôl paragraff (q) mewnosoder—

(r)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014(1),; a

(b)ar ôl paragraff 28B mewnosoder—

28C.  Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017(2) (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.