Search Legislation

Gorchymyn Rheilffyrdd Caerdydd a’r Cymoedd (Trosglwyddo) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y cwmnïau” (“the companies”) yw—

(a)

Keolis Amey Wales Cymru Limited (Rhif cofrestru’r cwmni 11391059) y mae ei swyddfa gofrestredig yn Nepo Maendy Amey Rail, oddi ar Caerleon Road, Casnewydd NP19 9DZ, a

(b)

Amey Keolis Infrastructure/Seilwaith Amey Keolis Limited (Rhif cofrestru’r cwmni 11389544) y mae ei gyfeiriad cofrestredig yn The Sherard Building, Edmund Halley Road, Oxford OX4 4DQ;

ystyr “cynllun trosglwyddo” (“transfer scheme”) yw cynllun a wneir o dan erthygl 3(1) (cytundebau â Network Rail ar gyfer cynlluniau trosglwyddo);

ystyr “darpariaeth statudol” (“statutory provision”) yw darpariaeth, pa un a yw’n un gyffredinol neu o natur arbennig, a geir mewn unrhyw Ddeddf, neu mewn unrhyw ddogfen a wneir neu a ddyroddir o dan unrhyw Ddeddf, pa un a yw’n un gyffredinol neu o natur arbennig;

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym;

ystyr “llinellau craidd y Cymoedd” (“the core Valley lines”) yw’r rheilffyrdd a awdurdodir gan y deddfiadau a restrir yn Atodlen 1 (y deddfiadau rheilffyrdd ar gyfer llinellau craidd y Cymoedd) ynghyd â phob darn o dir a gwaith sy’n ymwneud â’r rheilffyrdd hynny;

ystyr “Network Rail” (“Network Rail”) yw Network Rail Infrastructure Limited (Rhif cofrestru’r cwmni 02904587) y mae ei swyddfa gofrestredig yn 1 Eversholt Street, London, NW1 2DN ac unrhyw un o gwmnïau cysylltiedig Network Rail Infrastructure Limited sy’n dal eiddo at ddibenion rheilffordd, ac at ddibenion y diffiniad hwn ystyr “cwmni cysylltiedig” (“associated company”) yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(1)) yn gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited neu sy’n un o is-gwmnïau eraill cwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited;

ystyr “y rheilffyrdd a drosglwyddir” (“the transferred railways”) yw cynifer o linellau craidd y Cymoedd ag y gellir eu trosglwyddo i’r ymgymerwr drwy gynllun trosglwyddo;

ystyr “ymgymeriad llinellau craidd y Cymoedd” (“the core Valley lines undertaking”) yw’r rhan o ymgymeriad Network Rail sy’n cynnwys llinellau craidd y Cymoedd, ac unrhyw dir, gwaith, eiddo arall, hawliau, atebolrwyddau neu rwymedigaethau, statudol neu fel arall, sy’n ymwneud â llinellau craidd y Cymoedd;

ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw Trafnidiaeth Cymru (Rhif y Cwmni 09476013) a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n gwmni cyfyngedig drwy warant, y mae ei swyddfa gofrestredig yng Nghanolfan QED, Prif Rodfa, Stad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5YR.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources