Achosion pellach o drosglwyddo rheilffyrdd gan yr ymgymerwr4

1

Yn yr erthygl hon—

  • mae “prydles” (“lease”) yn cynnwys isbrydles a rhaid dehongli’r ferf prydlesu (“lease”) yn unol â hynny;

    ystyr “y trosglwyddai” (“the transferee”) yw unrhyw berson y prydlesir neu y gwerthir y rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, iddo o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon;

    ystyr “yr ymgymeriad a drosglwyddir” (“the transferred undertaking”) yw cymaint o’r rheilffyrdd ag a brydlesir neu a werthir o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw bryd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, werthu neu brydlesu’r rheilffyrdd a drosglwyddir neu unrhyw ran ohonynt i unrhyw berson ar y cyfryw delerau ac amodau ag y gellir cytuno arnynt rhwng yr ymgymerwr a’r person hwnnw.

3

Nid oes angen cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (2) os bwriedir prydlesu’r rheilffyrdd a drosglwyddir neu unrhyw ran ohonynt i un o’r cwmnïau neu i’r ddau ohonynt.

4

Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Gorchymyn hwn—

a

mae’r ymgymeriad a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau statudol a’r holl ddarpariaethau eraill sy’n gymwys iddo ar ddyddiad y brydles neu’r gwerthiant (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn parhau mewn grym ac yn gallu cael effaith),

b

mae gan y trosglwyddai, ac eithrio’r ymgymerwr, yr hawl i gael budd o’r holl hawliau, pwerau a breintiau sy’n ymwneud â’r ymgymeriad a drosglwyddir ac arfer yr hawliau, y pwerau a’r breintiau hynny, ac

c

wrth arfer pwerau unrhyw ddeddfiad, mae’r trosglwyddai yn ddarostyngedig i’r un rhwymedigaethau, statudol neu fel arall, ag a fyddai’n gymwys pe câi’r pwerau hynny eu harfer gan yr ymgymerwr.

5

Mae paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir, ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant, o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.