- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
10.—(1) Pan fydd person a gyflogir gan Network Rail yn dod yn gyflogai i’r ymgymerwr, yn rhinwedd cynllun trosglwyddo—
(a)nid ystyrir, at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1), fod y person wedi ei ddiswyddo yn rhinwedd y trosglwyddiad,
(b)mae cyfnod cyflogaeth y person gyda Network Rail yn cyfrif, at ddibenion y Ddeddf honno, fel cyfnod o gyflogaeth gyda’r ymgymerwr, ac
(c)nid yw newid cyflogaeth yn torri parhad y cyfnod o gyflogaeth at ddibenion y Ddeddf honno.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)cynllun trosglwyddo yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth person, ond
(b)cyn i’r trosglwyddiad gymryd effaith, bod y person yn hysbysu Network Rail neu’r ymgymerwr ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad.
(3) Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)ni throsglwyddir yr hawliau, y pwerau, y dyletswyddau na’r atebolrwyddau hynny i’r ymgymerwr;
(b)terfynir contract cyflogaeth y person yn union cyn y diwrnod y byddai’r trosglwyddiad wedi digwydd;
(c)nid ystyrir bod y person, at unrhyw ddiben, wedi ei ddiswyddo.
(4) Nid oes unrhyw beth yn is-baragraff (2) na (3) yn effeithio ar hawl y person i derfynu’r contract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol, ar wahân i newid cyflogwr, gan niweidio’r person o ran ei amodau gwaith.
(5) Os bydd cynllun trosglwyddo yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth y person, caiff gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â chymhwystra’r person i fod yn aelod o gynllun pensiwn yn rhinwedd ei gyflogaeth gyda’r ymgymerwr.
(6) Caiff y cynllun trosglwyddo gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â hawliau’r person, neu hawliau neu atebolrwyddau mewn cysylltiad ag ef, o dan—
(a)cynllun pensiwn y gall y person ymaelodi ag ef yn rhinwedd ei gyflogaeth gyda’r ymgymerwr, neu
(b)cynllun pensiwn y mae’r person yn aelod ohono yn rhinwedd ei gyflogaeth yn union cyn y trosglwyddiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: