2019 Rhif 114 (Cy. 28)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.