2.—(1) Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a)ar ddiwedd paragraff (f), hepgorer “ac”;
(b)ar ddiwedd paragraff (g) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
“(h)Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; ac
(i)Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo.”
(3) Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) ac (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i berson i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971(2) yn rhinwedd Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo(3) a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf honno i’w ddiystyru.”
1971 p. 77. Nid yw’r diwygiadau i adran 3 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’u diwygiwyd. Gosodwyd Atodiad EU gerbron Senedd y DU ar 20 Gorffennaf 2018 (CM 9675).