Offerynnau Statudol Cymru
2019 Rhif 1167 (Cy. 204)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019
Gwnaed
24 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1).
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei osod.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018
2.—(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 21, hepgorer paragraff (7).
(3) Yn y tabl yn Rhan C o Atodlen 4, ar ôl eitem 10 mewnosoder—
“11. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Quercus L., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae eu cylchedd 1.2 m uwchlaw coron y gwreiddiau yn 8 cm neu fwy. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd: (a) mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle na wyddys bod Thaumetopoea processionea L. yn bresennol; (b) mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Thaumetopoea processionea L. neu mewn ardal sy’n rhydd rhag Thaumetopoea processionea L., sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag IPSM Rhif 4; neu (c) mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Thaumetopoea processionea L. ac a arolygwyd ar adegau priodol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L.” |
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
24 Gorffennaf 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 er mwyn cyflwyno mesurau brys i atal Thaumetopoea processionea L. (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw) rhag cael ei gyflwyno i Gymru a rhag lledaenu o fewn Cymru.
Mae’n diwygio’r gofynion technegol y mae rhaid eu bodloni wrth ddod â phlanhigion penodol Quercus L. i Gymru, neu wrth eu symud o fewn Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1967 p. 8; diwygiwyd adran 2 gan baragraff 8(2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Rhan 1 o’r tabl ym mharagraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2), O.S. 1990/2371 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 3(1) gan baragraff 8(2)(a) a (b) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac O.S. 2011/1043. Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3(1) yn cael eu rhoi i “competent authority” (“awdurdod cymwys”), a ddiffinnir yn adran 1(2). Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae adran 1(2), fel y’i diwygiwyd, yn darparu mai’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2018/1064 (Cy. 223), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.