2019 Rhif 1192 (Cy. 209)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i ryme

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 19831 ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 a phwerau a roddir iddynt o dan adran 5(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20072

1

Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20143

1

Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20146 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20154

1

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20175

1

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20178 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20176

1

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20179 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20187

1

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201810 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3(4)—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 20188

1

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201811 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20199

1

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201912 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(4)—

a

ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—

iia

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;

b

ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.

Kirsty WilliamsY Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;

b

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014;

c

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;

d

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017;

e

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017;

f

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018;

g

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018;

h

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Mae pob un o’r Rheoliadau y cyfeirir atynt wedi eu diwygio er mwyn mewnosod yn y diffiniad o “caniatâd i ddod i mewn neu i aros”, bersonau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros ar sail bywyd teuluol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.