Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1278 (Cy. 222)

Landlord A Thenant, Cymru

Daliadau Amaethyddol

Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019

Gwnaed

24 Medi 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Medi 2019

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 66(2) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.

Dirymiadau

2.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) 1978(2);

(b)Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1980(3);

(c)Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1981(4);

(d)Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1983(5).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) 1978 o ran Cymru, a thri offeryn sy’n diwygio’r Rheoliadau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1986 p. 5; mae adran 96(1) yn diffinio mai “prescribed” (“wedi ei ragnodi”) yw wedi ei ragnodi gan y Gweinidog drwy reoliadau, ac mai “the Minister” (“y Gweinidog”) yw’r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru. Mae swyddogaethau’r Gweinidog o dan y Ddeddf bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.