2019 Rhif 1281 (Cy. 225)
Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 ac adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20172, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd mewn perthynas â’r diwygiadau a wneir gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.
Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu llunio.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
3
Daw rheoliadau 3, 4, 5 a 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
4
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â’r Gymraeg
Mesur y Gymraeg (Cymru) 20112
1
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 20114 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 3 o Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—
neu
v
un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;
3
Ym mharagraff 2 o Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—
neu
v
un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;
RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd
Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20193
1
Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20195 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(7), yn lle “yr awdurdodau perthnasol” rhodder “yr awdurdodau priodol”.
3
Yn rheoliad 7(5)(a), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “yr Ynysoedd Prydeinig”.
RHAN 4Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd
Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 20194
Yn rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 20196, yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl” rhodder “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787”.
RHAN 5Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hadau
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 20195
1
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 20197 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn nhestun Cymraeg paragraff (12), hepgorer “, 8”.
3
Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—
12A
Yn nhestun Cymraeg paragraff 8(b) o Ran 3 o Atodlen 1—
a
ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “y DU”,
b
ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “y DU”, ac
c
ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “y DU”.
4
Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff (17)(b)(iii) rhodder—
iii
yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”.
RHAN 6Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyllid llywodraeth leol
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 20056
Yn rheoliad 7(3) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 20058, hepgorer y diffiniad o “EEA State”.
RHAN 7Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â goruchwylio rheolaeth a defnydd cyffuriau a reolir a datgelu cofnodion addysgol a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu data
Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 20087
1
Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 20089 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “y GDPR”;
b
yn y lle priodol mewnosoder—
mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno);
3
Yn rheoliad 25(7) (dyletswydd i gydweithredu drwy ddatgelu gwybodaeth ynglyn â phersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
4
Yn rheoliad 26(6) (cyrff cyfrifol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei datgelu am bersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
5
Yn rheoliad 29(3) (adroddiadau ar ddigwyddiadau), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 20118
1
Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 201110 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (5)(a) a (b), yn lle “y GDPR” rhodder “GDPR y DU”.
3
Yn lle paragraff (6) rhodder—
6
Yn y rheoliad hwn, mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno).
Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 20199
Yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 201911, hepgorer paragraffau 71 i 75 a pharagraffau 90 ac 91.
RHAN 8Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â threthu trafodiadau tir
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 201710
Yn adran 36(12) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 201712, hepgorer y diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)