xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â’r Gymraeg

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

2.—(1Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3 o Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v)un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.

(3Ym mharagraff 2 o Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v)un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.