- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Mae Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y teitl, yn lle’r geiriau ar ôl “ganiatâd i ollwng” rhodder “uwchblanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â marchnata”.
(3) Yn lle’r nodyn ar gwr y dudalen rhodder “Rheoliad 12”.
(4) Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder “yn Ewrop”.
(5) Ym mharagraff 8, yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “yn Ewrop”.
(6) Yn lle paragraff 15 rhodder “Gwybodaeth am rannau o’r planhigyn lle mae’r mewnosodiad wedi’i fynegi”.
(7) Ar ôl paragraff 15 mewnosoder—
“15A. Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.
15B. Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.”.
(8) Hepgorer paragraffau 16 a 17.
(9) Yn lle paragraffau 18 i 23 rhodder—
18. Gwybodaeth am—
(a)unrhyw newid i barhausrwydd neu ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig a’i allu i drosglwyddo deunydd genetig i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)unrhyw newid i allu’r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(c)mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r organeddau targed, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(ch)newidiadau posibl i ryngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed o ganlyniad i’r addasiad genetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(d)newidiadau posibl i arferion amaethyddol a dulliau rheoli’r planhigyn a addaswyd yn enetig o ganlyniad i’r addasiad genetig, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(dd)y rhyngweithiadau posibl â’r amgylchedd anfiotig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(e)unrhyw effeithiau gwenwynig, effeithiau alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy’n deillio o’r addasiad genetig,
(f)casgliadau am y meysydd penodol sy’n peri risg.”.
(10) O dan y pennawd i Ran 5 hepgorer “(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)”.
(11) O dan y pennawd i Ran 6 hepgorer “(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)”.
(12) O dan y pennawd i Ran 7 hepgorer “(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)”.
(13) Yn lle paragraff 35 rhodder—
“35.—(1) Disgrifiad o unrhyw ragofalon i sicrhau y cedwir y planhigyn a addaswyd yn enetig, o ran ei leoliad, ac, yn ôl y digwydd, o ran amser, ar wahân i rywogaethau planhigion sy’n gydweddol yn rhywiol.
(2) Yn is-baragraff (1) ystyr “rhywogaethau planhigion” yw—
(a)perthnasau gwyllt a chwynnog,
(b)cnydau.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: