Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocolau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol

3.—(1Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol(1) (telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 5 (gweinyddu cyffuriau a chyfarpar) mewnosoder—

Cyflenwi yn unol â PPD

5A(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i fferyllydd GIG am gyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy; a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r fferyllydd GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff y fferyllydd GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r fferyllydd GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon;

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD; ac

(c)bo cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd wedi ei wneud gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig sydd o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4) Pan fo fferyllydd GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r fferyllydd cofrestredig a grybwyllir yn is-baragraff (3)(c) arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (ac os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw); a

(b)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, ac—

(i)yn rhinwedd rheoliad 226A(5)(c)(iii) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), os meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig sy’n wahanol i’r cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd ond sydd ag effaith therapiwtig debyg iddo sy’n cael ei chyflenwi, neu

(ii)os yw unrhyw fath arall o gynnyrch yn cael ei gyflenwi, ac mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006(2) mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol fferyllol ar gyfer fferyllwyr GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant yn briodol, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylai darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol gael eu hysbysu bod claf ar eu rhestr cleifion wedi cael ei gyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r fferyllydd GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar restr cleifion y darparwr hwnnw, am y cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(5) Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys;

(b)bo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac

(c)bo’r fferyllydd GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofynion i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 5(1) a (2) i’w darllen fel pe baent yn ofynion i weithredu o fewn amserlen resymol.

(3Ym mharagraff 7 (materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Mae is-baragraff (2) yn gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 5A(4)(a), i’w drin fel pe bai’n bresgripsiwn y darperir y cyffur neu’r cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

(4Ym mharagraff 8 (darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd)—

(a)yn is-baragraff (4), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,

(b)yn is-baragraff (5), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,

(c)yn is-baragraff (10), ar ôl “Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur” mewnosoder “, neu pan fo cyffur sydd i’w ddarparu yn unol â PPD,”,

(d)yn is-baragraff (14), yn lle “y paragraff” rhodder “baragraff 5, neu unrhyw gyffur y mae’n ei ddarparu o dan baragraff 5A”, ac

(e)ar ôl is-baragraff (14) mewnosoder—

(15) Pan fo fferyllydd GIG yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan baragraff 5A, rhaid i’r fferyllydd GIG gynnwys ar y label gweinyddu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

(5Ym mharagraff 9 (gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw; a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(2B) Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw;

(b)pan fo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac

(c)pan na all y fferyllydd GIG ddarparu’r cyffur neu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r fferyllydd GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyffur neu’r cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(6Ym mharagraff 10(2) (gweithgareddau pellach sydd i’w cyflawni mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu), ar ôl “o dan baragraff 4, os na all fferyllydd GIG” mewnosoder “(gan roi sylw i unrhyw PPD perthnasol)”.

(1)

Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio gan O.S. 2019/917 (Cy. 162).

(2)

Gweler y diffiniad o “Deddf 2006” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources