xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Atodlen 5 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol

4.—(1Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol(1) (telerau gwasanaethu ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 4 (gweinyddu cyfarpar) mewnosoder—

Cyflenwi yn unol â PPD

4A(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG am gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy; a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon;

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD; ac

(c)bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4) Pan fo contractwr cyfarpar GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (ac os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw); a

(b)(i)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, a

(ii)os yw math o gynnyrch yn cael ei gyflenwi y mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol fferyllol ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad mewn perthynas ag ef ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant yn briodol, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylai darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol gael eu hysbysu bod claf ar eu rhestr cleifion wedi cael ei gyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar restr cleifion y darparwr hwnnw, am y cyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(5) Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys;

(b)bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac

(c)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofyniad i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 4(2) i’w darllen fel pe bai’n ofyniad i weithredu o fewn amserlen resymol.

(3Ym mharagraff 6 (materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarpar), ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A) Mae is-baragraff (3) yn gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 4A(4)(a), i’w drin fel y presgripsiwn y darperir y cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

(4Ym mharagraff 7 (darparu cyfarpar)—

(a)yn is-baragraff (2), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,

(b)yn is-baragraff (3), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”, ac

(c)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan baragraff 4A, rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG gynnwys gydag ef mewn nodyn ysgrifenedig, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

(5Ym mharagraff 8 (gwrthod darparu cyfarpar a archebir), ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw; a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(1B) Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw;

(b)pan fo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac

(c)pan na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(1)

Mae Atodlen 5 wedi ei diwygio gan O.S. 2019/917 (Cy. 162).