Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1376 (Cy. 242)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Garddwriaeth, Cymru

Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Gwnaed

23 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(2) a diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(3).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn o ran diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(5), Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(6), Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(7), Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(3)

O.S. 2019/XXX (Cy. XXX).

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

(5)

O.S. 2009/1551 (Cy. 151), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae’r diwygiadau hyn i fod i ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2010/1671 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111) ac O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae’r diwygiadau hyn i fod i ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2011/1719 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320). Mae O.S. 2011/1719 (Cy. 195) wedi ei ddiwygio hefyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111) ac O.S. 2019/732 (Cy. 137) a daw’r diwygiadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.