Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

3.—(1Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw—

(a)

y Deyrnas Unedig;

(b)

Beilïaeth Guernsey;

(c)

Beilïaeth Jersey;

(d)

Ynys Manaw;.

(3Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, yn y tabl, hepgorer rhes 6.

(4Yn Atodlen 2, yn Rhan 2, yn y tabl—

(a)yn rhes 2, yng ngholofn 2, hepgorer “Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008”, a

(b)hepgorer rhesi 18 i 20.

(5Yn Atodlen 3, yn y tabl, yn rhes 1, yng ngholofn 3, hepgorer “cenedlaethol”.