Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20183

1

Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20185 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “sydd ar ffurf” rhodder “i’r graddau y mae’n cynnwys”;

ii

ar y diwedd mewnosoder “neu unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth”;

b

ym mharagraff (2)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “£9.71” rhodder “£10.51”;

ii

yn lle is-baragraffau (b) ac (c), rhodder—

b

yn achos—

i

llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

aa

un lot o flodau wedi eu torri, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r blodau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

bb

dwy lot neu ragor o flodau wedi eu torri, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

ii

llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

aa

un lot o ffrwythau neu lysiau, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r ffrwythau neu’r llysiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

bb

dwy lot neu ragor o ffrwythau neu lysiau, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

c

yn achos llwyth—

i

sy’n cynnwys canghennau wedi eu torri o Phoenix spp. sy’n tarddu o Costa Rica ac nad yw’n cynnwys unrhyw ganghennau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r canghennau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

ii

yn achos unrhyw lwyth arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

aa

pan fo’r llwyth yn cynnwys unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, ffi o £5.98;

bb

pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, y ffi neu’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

iii

yn is-baragraff (d), yn lle “£157.08” rhodder “£147.35”;

c

ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “pla planhigion a reolir”, mewnosoder—

aa

mae i “Ewrop” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018;

ab

ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;

ac

ystyr “llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw flodau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;

ad

ystyr “llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys ffrwythau neu lysiau o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw ffrwythau na llysiau eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;

3

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (2), yn lle “ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3” rhodder “ffi a bennir ym mharagraff (3)”;

b

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Mae ffi o £61.58 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £123.16.

c

ym mharagraff (4), yn lle “£18.78” rhodder “£20.66”.

4

Yn rheoliad 6(1), yn lle “£60.40” rhodder “£70.83”.

5

Yn rheoliad 8—

a

ym mharagraff (4), yn lle “£14.76” rhodder “£15.76”;

b

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

4A

Pan fo person yn cyflwyno cais ar gyfer darparu labelau argraffedig, mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy—

a

yn achos cais a gyflwynir ar-lein, £11.45;

b

yn achos cais a gyflwynir ar bapur, £15.61.

6

Yn lle rheoliad 9(2) rhodder—

2

Mae ffi o £26.00 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £52.00.

7

Yn lle Atodlen 1 rhodder—

ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio

Rheoliad 3(1)

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Ffi (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau

173.91

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had)

182.38

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws)

205.04

Hadau, meithriniad meinwe

128.13

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn

182.38

Blodau wedi eu torri

42.75

Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri)

33.99

Coed Nadolig wedi eu torri

119.64

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog

71.68

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)

53.10

Cloron tatws

156.69

Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl

119.64

Grawn

142.98

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd

22.73

8

Yn lle Atodlen 2 rhodder—

ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

Rheoliad 3(2)(c)

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi (£)

Blodau wedi eu torri

Aster

Zimbabwe

32.06

Dianthus

Colombia

1.28

Ecuador

6.41

Kenya

2.14

Twrci

6.41

Rosa

Colombia

1.28

Ecuador

0.43

Ethiopia

2.14

Kenya

4.28

Tanzania

21.38

Zambia

4.28

Canghennau gyda Deiliant

Phoenix

Costa Rica

17.00

Ffrwythau

Actinidia

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Carica papaya

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Citrus

Yr Aifft

39.83

Moroco

1.59

Periw

5.31

Twrci

1.59

UDA

13.28

Citrus limon a citrus aurantifolia

Israel

13.28

Cydonia

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Fragaria

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Malus

Ariannin

18.59

Brasil

26.55

Chile

2.66

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Seland Newydd

5.31

De Affrica

2.66

Mangifera

Brasil

26.55

Passiflora

Colombia

3.72

Kenya

13.28

De Affrica

18.59

Fiet-nam

13.28

Zimbabwe

26.55

Persea americana

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Prunus

Ariannin

39.83

Chile

5.31

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Moroco

26.55

Twrci

18.59

UDA

26.55

Prunus ac eithrio prunus persica

De Affrica

2.66

Pyrus

Ariannin

7.97

Chile

7.97

Tsieina

26.55

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

De Affrica

5.31

Ribes

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Rubus

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Vaccinium

Ariannin

13.28

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Vitis

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Llysiau

Solanum lycopersicon

Yr Ynysoedd Dedwydd

2.66

Moroco

2.66

Solanum melongena

Twrci

13.28

9

Hepgorer Atodlen 3.

10

Yn lle Atodlen 4 rhodder—

ATODLEN 4Ffioedd trwydded iechyd planhigion

Rheoliad 5(1)

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2020;

  • ystyr “cyfnod 2” yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar 30 Medi 2020.

    Colofn 1

    Y math o gais neu arolygiad

    Colofn 2

    Dyddiad y cais

    Colofn 3

    Ffi (£)

    Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—

    • trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall

    • trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

    995.36

    Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

    995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5

    Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

    745.41

    Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

    745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5

    Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer

    380.25

    Cais am unrhyw drwydded arall

    42.50

    Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol

    42.50

    Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded

    Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 1

    69.75 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 139.50

    Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 2

    81.25 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 162.50

    Yn achos monitro a wneir ar 1 Hydref 2020 neu ar ôl hynny

    92.67 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 185.34

11

Yn lle Atodlen 5 rhodder—

ATODLEN 5Tatws hadyd: ffioedd

Rheoliad 8(1)

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws

Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20166

24.75 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi

Arolygu cnydau sy’n tyfu

Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb

30.39 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)

60.78

Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb

12.16 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

60.75

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb

10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

105.70

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb

10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

105.70

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb

10.33 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

103.30

Ardystio yn datws hadyd ardystiedig: Gradd A neu B yr Undeb

9.39 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

93.90

Arolygu cloron a gynaeafwyd

Arolygu

40.55 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)

81.10

Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau

Labelau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal 50 kg o datws hadyd neu lai

0.05 am bob label

Labelau a seliau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal mwy na 50 kg o datws hadyd

0.11 am bob label (gan gynnwys sêl)

Labelau a seliau gwag

0.16 am bob label (gan gynnwys sêl)