Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2019 Rhif 1382 (Cy. 245)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)

mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)
mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721;
(c)
mewn perthynas â Rhan 3, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin3.

Mae’r gofyniad ym mharagraff 4(a) o Atodlen 2 (sy’n ymwneud ag ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol) i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi ei fodloni.

Yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20064 a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.