Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1408 (Cy. 249)

Bwyd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

28 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), ac atal ac adfer difrod amgylcheddol(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso rheoliadau 3 a 4, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).