2019 Rhif 1482 (Cy. 266)

Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag—

a

mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath2;

b

mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd3;

c

mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd4.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i—

a

unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20065 at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, a

b

unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20096 at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn,

gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.