Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017(1);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(3);

ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Ffurf a chynnwysLL+C

3.  Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Cyfnod para cynlluniau deng mlyneddLL+C

4.—(1Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar [F11 Medi 2022] ac sy’n dod i ben ar [F231 Awst 2032] (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).

(2Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(3Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).

Cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion CymruLL+C

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na [F331 Ionawr 2022].

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 MediLL+C

6.—(1Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Adroddiad adolygu blynyddolLL+C

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn [F42023], gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.

(2Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na [F531 Gorffennaf 2023] a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.

(3Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.

Diwygio cynlluniauLL+C

8.—(1Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.

(2Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.

(3Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Llunio ac ymgynghoriLL+C

9.  Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig(5)) yw—

(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(6));

(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(d)darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac

(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Amseriad cyhoeddiLL+C

10.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Dull cyhoeddiLL+C

11.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar ei wefan; a

(b)rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

(i)pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;

(ii)unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Dirymu ac arbedionLL+C

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(7) wedi eu dirymu.

(2Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.1.2020, gweler rhl. 1(1)

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2019