- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
4 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym
1 Ionawr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan reoliadau 84, 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017(2);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(4);
ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5).
3. Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.
4.—(1) Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2021 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2031 (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).
(2) Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.
(3) Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).
5.—(1) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr 2021.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.
6.—(1) Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.
(2) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.
7.—(1) Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2022, gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.
(2) Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.
(3) Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.
8.—(1) Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.
(2) Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.
(3) Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.
9. Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig(6)) yw—
(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(7));
(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);
(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
(d)darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac
(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.
10. Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.
11. Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—
(a)ei roi ar ei wefan; a
(b)rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—
(i)pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;
(ii)unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(8) wedi eu dirymu.
(2) Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2019
Rheoliad 3
1.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.
(2) Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013.
2. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
3. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio data sy’n deillio o’i adolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ei ardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016(9)) er mwyn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.
4.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.
(2) Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
5. Datganiad sy’n nodi sut y bydd ceisiadau y mae’r awdurdod lleol yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion a gynhelir ganddo yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
6. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd er mwyn sicrhau parhad mewn trefniadau ar gyfer personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i’w ardal.
7. Datganiad sy’n nodi trefniadau’r awdurdod lleol o ran ei ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid(10) i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gwarcheidwaid.
8. Datganiad sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â’i fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg (os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol) i lunio cynllun yr awdurdod a sut y bydd y fforwm yn goruchwylio ei weithredu a’i werthuso.
9. Datganiad sy’n nodi—
(a)sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir;
(b)sut y bydd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau ni waeth beth fo’u cefndir ieithyddol;
(c)sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y manteision a all ddod yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
10. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod personau a addysgir yn Gymraeg yn parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.
11.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
(2) Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
12.—(1) Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2) Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
13. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i barhau â’r addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ar gyfer personau ym mlwyddyn 10 ac uwch drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen.
14. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio a’i ysgolion a SABau (os bydd angen) i gyd-drefnu darpariaeth Gymraeg fel pwnc i bersonau sydd ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir.
15. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn gwella sgiliau Cymraeg personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhelir ganddo er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.
16. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(11) er mwyn gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.
17. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i adnabod y gweithlu y mae ei angen arno er mwyn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y cynllun yn unol â thargedau’r cynllun, ac i gyfrifo unrhyw ddiffyg disgwyliedig yn ei weithlu.
18. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cymorth er mwyn gwella sgiliau Cymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.
19. Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ei ardal.
20. Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill fel y bo angen, yn hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant i ddysgwyr yn unol â’r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(12).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 84, 87 and 97 o Ddeddf 2013. Maent yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol lunio cynllun deng mlynedd, y cyntaf i gael effaith o 1 Medi 2021, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion a ganlyn:
(a)ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 3);
(b)cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);
(c)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 5);
(d)cymeradwyo cynllun (rheoliad 6);
(e)amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiad adolygu (rheoliad 7);
(f)trefniadau ar gyfer diwygio’r cynllun (rheoliad 8);
(g)y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9);
(h)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun (rheoliad 10);
(i)dull cyhoeddi cynllun (rheoliad 11);
(j)dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 (rheoliad 12).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Lles Disgyblion, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2013 dccc 1. Gweler adran 98 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
O.S. 2017/154 (Cy. 45), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/1023 (Cy. 261).
Mae’r personau hyn yn ychwanegol at y rheini a restrir yn adran 84(4) o Ddeddf 2013.
Plant (sy’n 7 oed neu drosodd) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: