Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

2.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”);

(b)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—

ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw—

(a)

cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

(i)

caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf,

(ii)

awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, neu

(b)

cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael;;

(c)hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);

(d)hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

(a)

caniatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990, neu

(b)

awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig,

ac na thynnwyd y caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol yn ôl, neu nad yw’r caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol wedi peidio â bod yn ddilys fel arall, mewn cysylltiad ag ef;..

(3Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol â chaniatâd” hyd at “neu lle mae”.

(4Yn rheoliad 12(1)(ch)—

(a)hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol,”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.

(5Yn rheoliad 16—

(a)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(2);;

(b)hepgorer paragraff (c);

(c)ym mharagraff (ch), yn lle “;” rhodder “; neu” ;

(d)yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(3) neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(4) yn cael ei farchnata.;

(e)hepgorer paragraff (e).

(6Yn rheoliad 17(2)—

(a)yn is-baragraff (b)—

(i)yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(ii)hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;

(b)yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC,”;

(c)yn is-baragraff (g), yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/812/EC”.

(7Yn rheoliad 21—

(a)hepgorer paragraff (c);

(b)ym mharagraff (dd), hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.

(8Yn rheoliad 22—

(a)ym mharagraff (3), hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;

(b)yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.

(9Yn lle rheoliad 24 rhodder—

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

24.(1) Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig o’r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)archwilio’r cais i weld a yw’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny’n angenrheidiol, gofyn i’r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol yn unol ag adran 111(6) o’r Ddeddf;

(c)cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law naill ai—

(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

(ii)gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad, a hynny wedi’i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi na ddylid marchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig.

(2) Nid yw’r cyfnod o 90 diwrnod a ragnodir ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth honno i law Gweinidogion Cymru.

(3) Pan fo’r adroddiad asesu y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) yn nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Weinidogion Cymru wahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais sy’n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad asesu, a rhaid iddynt ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o 30 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cais ar y gofrestr (ac ni chaiff hynny fod yn gynt na’r diwrnod y gosodir yr adroddiad asesu ar y gofrestr o dan reoliad 35(7A).

(10Yn lle rheoliad 25 rhodder—

Penderfyniadau gan Weinidogion Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

25.(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwahodd sylwadau ar adroddiad asesu sy’n ymwneud â chais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu cytuno ar gais, neu ei wrthod, cyn i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3) ddod i ben a chyn i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw;

(b)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 105 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3)—

(i)penderfynu ar y cais, a

(ii)hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad i gytuno ar y cais, neu ei wrthod, a’r rhesymau dros y penderfyniad.

(3) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â’r diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd o dan adran 111 o’r Ddeddf.

(5) Rhaid i gyfnod y caniatâd cyntaf i farchnata—

(a)organedd a addaswyd yn enetig, neu

(b)epil o’r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae’r amrywiad planhigyn wedi’i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig,

ddod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(5).

(6) At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad penodedig.

(7) Ym mharagraff (6), ystyr “y dyddiad penodedig” yw’r dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf ddeunydd sylfaenol sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(6).

(11Yn rheoliad 26, hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).

(12Yn rheoliad 27—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i adnewyddu caniatâd, y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(13Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.

(14Yn lle rheoliad 32 rhodder—

Amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata

32.(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.

(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

(15Yn rheoliad 33, hepgorer paragraffau (3) i (5).

(16Yn rheoliad 35, yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—

(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).

(2) Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 110 o’r Ddeddf—

(a)enw a chyfeiriad y person y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo;

(b)disgrifiad o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy;

(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig;

(ch)at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig;

(d)y rheswm dros gyflwyno’r hysbysiad;

(dd)unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r gwaharddiad i rym.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)disgrifiad cyffredinol o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hwy;

(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, i’r graddau y mae’r wybodaeth hon wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru;

(ch)at ba ddiben y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata;

(d)dyddiad arfaethedig eu gollwng;

(dd)yr asesiad risg amgylcheddol;

(e)y dulliau a’r cynlluniau ar gyfer monitro’r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng;

(f)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng, neu farchnata, organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—

(i)yr amodau neu’r cyfyngiadau y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi’r caniatâd yn unol â hwy, neu

(ii)crynodeb o’r rhesymau pam y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi’r caniatâd;

(ff)y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).

(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;

(b)enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;

(c)enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;

(ch)marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;

(d)cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;

(dd)yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;

(e)gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi’u storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa, a’r amodau storio priodol a’r oes silff.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ymwybodol neu os deuant yn ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi’i chyhoeddi a bod honno’n fanylach na’r hyn a fyddai’n bodloni gofynion paragraff (3), rhaid iddynt nodi cymaint o’r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y byddant yn ystyried yn briodol.

(5) Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

(a)copi o’r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef;

(b)unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Weinidogion Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd;

(c)y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o’r caniatâd wedi’i amrywio;

(ch)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

(6) Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i’r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o’r Ddeddf;

(b)unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy’n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy’n bodoli o beri niwed i’r amgylchedd a’r wybodaeth honno wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o’r Ddeddf.

(7) Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd cyn y diwrnod ymadael gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth.

(7A) Copi o unrhyw adroddiad asesu a luniwyd yn unol â rheoliad 24(1)(c) neu 26(1)(c).

(8) Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i’r graddau y mae’r wybodaeth honno yn cael ei chyflenwi i Weinidogion Cymru yn unol â’r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.

(9) Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 18 o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(17Yn lle rheoliad 36 rhodder—

Cadw’r gofrestr

36.(1) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad gwahardd.

(2) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) ac (ff) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

(3) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.

(4) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

(5) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi’r caniatâd.

(6) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Gweinidogion Cymru.

(7) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio’r caniatâd.

(8) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a (10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

(9) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y cafodd ei llunio.

(10) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

(18Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 2, hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(b)ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;

(c)ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(d)ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.

(19Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.