2019 Rhif 1492 (Cy. 271)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.

2

Daw rheoliadau 1 a 4 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

3

Daw rheoliadau 2 a 3 i rym ar y diwrnod ymadael.

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 20022

1

Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 20022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”);

b

yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—

  • ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw—

    1. a

      cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

      1. i

        caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf,

      2. ii

        awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, neu

    2. b

      cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael;

c

hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);

d

hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);

e

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

    1. a

      caniatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990, neu

    2. b

      awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig,

    ac na thynnwyd y caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol yn ôl, neu nad yw’r caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol wedi peidio â bod yn ddilys fel arall, mewn cysylltiad ag ef;.

3

Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol â chaniatâd” hyd at “neu lle mae”.

4

Yn rheoliad 12(1)(ch)—

a

hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol,”;

b

ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.

5

Yn rheoliad 16—

a

yn lle paragraff (b) rhodder—

b

lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 20143;

b

hepgorer paragraff (c);

c

ym mharagraff (ch), yn lle “;” rhodder “; neu” ;

d

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 20124 neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 20135 yn cael ei farchnata.

e

hepgorer paragraff (e).

6

Yn rheoliad 17(2)—

a

yn is-baragraff (b)—

i

yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

ii

hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;

b

yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC,”;

c

yn is-baragraff (g), yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/812/EC”.

7

Yn rheoliad 21—

a

hepgorer paragraff (c);

b

ym mharagraff (dd), hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.

8

Yn rheoliad 22—

a

ym mharagraff (3), hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;

b

yn lle paragraff (6) rhodder—

6

Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.

9

Yn lle rheoliad 24 rhodder—

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig24

1

Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf rhaid i Weinidogion Cymru—

a

hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig o’r dyddiad y daeth y cais i law;

b

archwilio’r cais i weld a yw’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny’n angenrheidiol, gofyn i’r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol yn unol ag adran 111(6) o’r Ddeddf;

c

cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law naill ai—

i

anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

ii

gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad, a hynny wedi’i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi na ddylid marchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig.

2

Nid yw’r cyfnod o 90 diwrnod a ragnodir ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth honno i law Gweinidogion Cymru.

3

Pan fo’r adroddiad asesu y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) yn nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Weinidogion Cymru wahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais sy’n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad asesu, a rhaid iddynt ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o 30 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cais ar y gofrestr (ac ni chaiff hynny fod yn gynt na’r diwrnod y gosodir yr adroddiad asesu ar y gofrestr o dan reoliad 35(7A).

10

Yn lle rheoliad 25 rhodder—

Penderfyniadau gan Weinidogion Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig25

1

Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

2

Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwahodd sylwadau ar adroddiad asesu sy’n ymwneud â chais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

a

ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu cytuno ar gais, neu ei wrthod, cyn i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3) ddod i ben a chyn i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw;

b

rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 105 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3)—

i

penderfynu ar y cais, a

ii

hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad i gytuno ar y cais, neu ei wrthod, a’r rhesymau dros y penderfyniad.

3

Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru.

4

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â’r diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd o dan adran 111 o’r Ddeddf.

5

Rhaid i gyfnod y caniatâd cyntaf i farchnata—

a

organedd a addaswyd yn enetig, neu

b

epil o’r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae’r amrywiad planhigyn wedi’i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig,

ddod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 20016.

6

At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad penodedig.

7

Ym mharagraff (6), ystyr “y dyddiad penodedig” yw’r dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf ddeunydd sylfaenol sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 20027.

11

Yn rheoliad 26, hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).

12

Yn rheoliad 27—

a

yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

b

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i adnewyddu caniatâd, y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

13

Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.

14

Yn lle rheoliad 32 rhodder—

Amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata32

1

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.

2

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

15

Yn rheoliad 33, hepgorer paragraffau (3) i (5).

16

Yn rheoliad 35, yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—

1

Rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).

2

Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 110 o’r Ddeddf—

a

enw a chyfeiriad y person y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo;

b

disgrifiad o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy;

c

y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig;

ch

at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig;

d

y rheswm dros gyflwyno’r hysbysiad;

dd

unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r gwaharddiad i rym.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

a

enw a chyfeiriad y ceisydd;

b

disgrifiad cyffredinol o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hwy;

c

y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, i’r graddau y mae’r wybodaeth hon wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru;

ch

at ba ddiben y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata;

d

dyddiad arfaethedig eu gollwng;

dd

yr asesiad risg amgylcheddol;

e

y dulliau a’r cynlluniau ar gyfer monitro’r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng;

f

crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng, neu farchnata, organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—

i

yr amodau neu’r cyfyngiadau y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi’r caniatâd yn unol â hwy, neu

ii

crynodeb o’r rhesymau pam y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi’r caniatâd;

ff

y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).

3A

Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

a

enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;

b

enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;

c

enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;

ch

marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;

d

cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;

dd

yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;

e

gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi’u storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa, a’r amodau storio priodol a’r oes silff.

4

Os yw Gweinidogion Cymru yn ymwybodol neu os deuant yn ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi’i chyhoeddi a bod honno’n fanylach na’r hyn a fyddai’n bodloni gofynion paragraff (3), rhaid iddynt nodi cymaint o’r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y byddant yn ystyried yn briodol.

5

Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

a

copi o’r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef;

b

unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Weinidogion Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd;

c

y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o’r caniatâd wedi’i amrywio;

ch

crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

6

Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i’r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—

a

unrhyw wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o’r Ddeddf;

b

unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy’n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy’n bodoli o beri niwed i’r amgylchedd a’r wybodaeth honno wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o’r Ddeddf.

7

Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd cyn y diwrnod ymadael gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth.

7A

Copi o unrhyw adroddiad asesu a luniwyd yn unol â rheoliad 24(1)(c) neu 26(1)(c).

8

Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i’r graddau y mae’r wybodaeth honno yn cael ei chyflenwi i Weinidogion Cymru yn unol â’r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.

9

Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 18 o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

17

Yn lle rheoliad 36 rhodder—

Cadw’r gofrestr36

1

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad gwahardd.

2

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) ac (ff) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

3

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.

4

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

5

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi’r caniatâd.

6

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Gweinidogion Cymru.

7

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio’r caniatâd.

8

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a (10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

9

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y cafodd ei llunio.

10

Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

18

Yn Atodlen 3—

a

ym mharagraff 2, hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;

b

ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;

c

ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;

d

ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.

19

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 20053

1

Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 20058 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn yr Atodlen—

a

yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;

b

yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.

Dirymu4

2

Mae Rhan 3 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201910 wedi ei dirymu.

3

Mae rheoliad 17 o Reoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 201911 wedi ei ddirymu.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rhan 3 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/379 (Cy. 94)) (“Rheoliadau 2019”) ac yn ei hail-wneud gyda diwygiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae rheoliadau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth Gymreig er mwyn cywiro unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 4 yn dirymu darpariaethau amrywiol gan gynnwys Rhan 3 o Reoliadau 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.