2019 Rhif 1493 (Cy. 272)
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 11(3) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 20191, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Rhagfyr 2019 at ddiben rheoliad 2 ac ar 28 Chwefror 2020 at bob diben arall.
Dirymu2
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 20192 wedi eu dirymu.
Gwybodaeth benodedig3
1
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid i landlord (neu, os cyfarwyddir felly, ei asiant gosod eiddo) ei darparu i ddarpar ddeiliad contract3 cyn y telir blaendal cadw4 i landlord neu asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.
2
Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—
a
swm y blaendal cadw5,
b
cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,
c
pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,
d
pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,
e
hyd y contract,
f
dyddiad meddiannaeth arfaethedig,
g
swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,
h
cyfnod rhentu,
i
unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,
j
swm unrhyw flaendal sicrwydd,
k
a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,
l
gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, ac
m
gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
3
Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)