Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1499 (Cy. 275)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

11 Rhagfyr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym

13 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(1)

1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(2)

Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”) ac mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).

(3)

Ychwanegwyd adran 14(7) gan Orchymyn 2009.