- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth leoli unigolyn gyda gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi ymrwymo i gytundeb gofalwr â’r gofalwr lleoli oedolion.
(2) Rhaid i’r cytundeb gofalwr fod yn ysgrifenedig.
(3) Ni chaiff darparwr gwasanaeth ymrwymo ond i un cytundeb gofalwr â phob gofalwr lleoli oedolion.
(4) Rhaid i’r cytundeb gofalwr—
(a)darparu bod y partïon i’r cytundeb gofalwr yn ymgymryd â’u rolau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r gwasanaeth;
(b)cynnwys trefniadau i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan ofalwyr lleoli oedolion—
(i)yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato;
(ii)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;
(iii)yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol;
(iv)yn cael eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato;
(v)yn achos cyfarpar, yn cael ei storio’n briodol;
(c)cynnwys gofyniad y dylai’r gofalwr lleoli oedolion gefnogi’r unigolyn i gael mynediad i driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd fel y bo angen;
(d)cynnwys trefniadau i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u rhoi’n ddiogel gan gynnwys pennu o dan ba amgylchiadau y caiff gofalwr lleoli oedolion roi neu gynorthwyo i roi meddyginiaeth unigolyn a’r gweithdrefnau sydd i’w mabwysiadu o dan amgylchiadau o’r fath;
(e)cynnwys trefniadau addas i gefnogi unigolion i reoli eu harian.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’r gofalwr lleoli oedolion yn peidio â bod yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion yn unol â rheoliad 36.
(6) Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth nad yw neu na fydd y gofalwr lleoli oedolion yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y cytundeb gofalwr.
(7) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr heb ymgynghori’n gyntaf â’r gofalwr lleoli oedolion, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol ymgynghori ag ef.
12.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth leoli unigolyn gyda gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi ymrwymo i gytundeb lleoli unigolyn â’r gofalwr lleoli oedolion.
(2) Rhaid bod cytundeb lleoli unigolyn ar gyfer pob unigolyn sydd i’w leoli gyda’r gofalwr lleoli oedolion.
(3) Pryd bynnag y bo’n ymarferol, rhaid i’r unigolyn fod yn barti i’r cytundeb, a rhaid rhoi copi iddo o’r cytundeb wedi ei lofnodi sy’n ymwneud â’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys mewn cytundeb lleoli unigolyn wybodaeth sy’n galluogi pob parti sy’n ymwneud â’r cytundeb i ddeall ei rolau a’i gyfrifoldebau.
(5) Rhaid i’r cytundeb lleoli unigolyn hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)pryd bynnag y bo’n ymarferol, enw unigolyn ac eithrio aelod o staff y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r gofalwr lleoli oedolion, sydd, gyda chydsyniad datganedig neu oblygedig yr unigolyn, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr unigolyn;
(b)yr ystafell sydd i’w meddiannu gan yr unigolyn yng nghartref y gofalwr lleoli oedolion;
(c)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r lleoliad a chan bwy y maent yn daladwy.
(6) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth adolygu’r cytundeb lleoli unigolyn—
(a)o leiaf unwaith o fewn blwyddyn gyntaf y lleoliad;
(b)pryd bynnag y gwneir newid sylweddol i’r cynllun personol;
(c)ar gais rhesymol yr unigolyn, unrhyw gynrychiolydd neu’r gofalwr lleoli oedolion;
(d)beth bynnag, o fewn blwyddyn i’r adolygiad diwethaf.
(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn mewn unrhyw achos pan fo’r gofalwr lleoli oedolion yn peidio â bod yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion yn unol â rheoliad 36.
(9) Heb ragfarnu paragraff (8), rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth nad yw neu na fydd y gofalwr lleoli oedolion yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli unigolyn.
(10) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn heb ymgynghori’n gyntaf â’r unigolyn, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol ymgynghori ag ef.
13.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun i’r unigolyn sy’n nodi—
(a)sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,
(b)sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,
(c)y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a
(d)y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.
(3) Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn cychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac na fo amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn cychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i gychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn.
(6) Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(7) Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr o dan reoliad 10(4),
(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt yn yr un llety.
14.—(1) Rhaid i gynllun personol yr unigolyn gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.
(2) Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(4) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.
15. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw cofnod o’r canlynol—
(i)y cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
(ii)canlyniad unrhyw adolygiad, a
(b)rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig i—
(i)yr unigolyn,
(ii)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: