RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben3
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
b
pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
3
Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
4
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
5
Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
6
Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
a
y rheoleiddiwr gwasanaethau,
b
yr unigolyn,
c
y gofalwr lleoli oedolion,
d
unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn,
e
comisiynydd y gwasanaeth.
7
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.