RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol5

1

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

2

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol12

a

yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

b

yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

3

Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 12 i 16, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

b

hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.

4

Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

a

rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

b

goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

c

cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 11, a

d

monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

5

Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

b

rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.