RHAN 15Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol
Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon52.
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Dyletswydd gonestrwydd53.
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a)
unigolion,
(b)
unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.
Hysbysiadau54.
(1)
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.
(2)
Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(3)
Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(4)
Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.