RHAN 16Troseddau
Troseddau – darparwyr gwasanaethau55.
(1)
(2)
Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 4(3), 4(5), 8(3), 9(1), 9(3), 15(1), 15(2), 15(3), 24(1), 27(1), 31(1), 31(2), 32(1) a 32(3).
(3)
Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—
(a)
niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,
(b)
unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu
(c)
yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.
(4)
Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 3, 4(1), 11(1), 11(3) a 12(1).
Troseddau – unigolion cyfrifol56.
(1)
(2)
Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 37(1), 38(1), 41(1), 41(2), 43(1), 43(2), 44(1), 44(2), 45(1), 50(4), 51(1), 54(1) a 54(3).