RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu eiriolaeth
Cynllun eirioli
12.—(1) Os yw’r darparwr gwasanaeth yn penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, lunio cynllun sy’n nodi—
(a)y camau sydd i’w cymryd i gynorthwyo’r unigolyn i gyflwyno sylwadau; a
(b)unrhyw gamau sydd i’w cymryd i liniaru risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn.
(2) Wrth lunio’r cynllun eirioli, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd oni bai—
(a)bod yr unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn am i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu
(b)y byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
Adolygu’r cynllun eirioli
13.—(1) Rhaid i’r cynllun eirioli gael ei adolygu fel a phan y’i cytunir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r unigolyn.
(2) Rhaid i adolygiad o gynllun eirioli gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu mynegi safbwyntiau’r unigolyn neu sicrhau bod y safbwyntiau hynny yn cael eu cynrychioli.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(4) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun eirioli gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.
Cofnodion o gynlluniau eirioli
14. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw cofnod o’r canlynol—
(i)y cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
(ii)canlyniad unrhyw adolygiad, a
(b)rhoi copi o’r cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig i—
(i)yr unigolyn,
(ii)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn.