Cyfrinachedd
19.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth barchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ynghylch hawl unigolion i gyfrinachedd, sydd hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan ganiateir i hawl unigolyn i gyfrinachedd gael ei threchu, a rhaid iddo weithredu’r gwasanaeth yn unol â’r polisi.