Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diffiniad ac eithriadau

2.—(1At ddiben paragraff 7(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, mae gwasanaeth eirioli yn—

(a)gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer plant sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014(1); neu

(b)gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer personau sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 176 o Ddeddf 2014(2),

pan ddiben yr eiriolaeth yw cynrychioli safbwyntiau’r plant neu’r personau neu eu helpu i fynegi eu safbwyntiau mewn perthynas â’u hanghenion am ofal a chymorth(3).

(2Ond nid yw gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn wasanaeth eirioli—

(a)os yw’n cael ei ddarparu gan berson yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007(4) gan berson sy’n—

(i)person awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu

(ii)cyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 (5));

(b)os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan swyddog achosion teuluol Cymreig yng nghwrs cyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag achosion teuluol;

(c)os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan Gomisiynydd Plant Cymru neu gan aelod o staff Comisiynydd Plant Cymru;

(d)os yw’n cael ei ddarparu gan berson nad yw wedi darparu nac yn bwriadu darparu eiriolaeth i fwy na 4 person o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(e)i’r graddau y mae’n cael ei ddarparu gan berthynas neu gyfaill i’r person y cyflwynir sylwadau ar ei ran neu y bwriedir cyflwyno sylwadau ar ei ran.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ganlyn yr ystyron a roddir iddynt—

(i)ystyr “perthynas” yw rhiant neu berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (pa un ai drwy briodas neu bartneriaeth sifil), tad-cu/taid neu fam-gu/nain, llys-riant, rhiant maeth neu ddarpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef neu hi;

(ii)mae i “achosion teuluol” yr ystyr a roddir i “family proceedings” gan adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(6);

(iii)mae i “swyddog achosion teuluol Cymreig” yr un ystyr â “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004(7);

(iv)mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd; a

(b)wrth benderfynu a yw person wedi darparu neu’n bwriadu darparu gwasanaeth eirioli i fwy na 4 person at ddiben paragraff (2)(d), mae darparu eiriolaeth i grŵp o frodyr a chwiorydd yn cael ei gyfrif fel darparu eiriolaeth i un person.

(1)

Mae adran 174 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir i’r awdurdod mewn perthynas ag ystod o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â phlentyn.

(2)

Mae adran 176 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlant neu bobl ifanc a fu gynt yn derbyn gofal a phobl ifanc eraill sy’n gysylltiedig.

(3)

Mae paragraff 7(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol na all gwasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli at ddibenion Deddf 2016 ond os yw’n wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu a yw’r anghenion hynny yn bodoli).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources