Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
9.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
Cychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 3, rheoliad 11)
Cyfrinachedd (gweler Rhan 6, rheoliad 19)
Diogelu (gweler Rhan 7, rheoliad 21)
Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 25)
Disgyblu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 28)
Cwynion (gweler Rhan 10, rheoliad 34)
Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 10, rheoliad 35).
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir eiriolaeth ar eu cyfer,
(b)yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac
(c)yn cael eu cadw’n gyfredol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.