Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2019
Yn dod i rym
29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) (“Deddf 2016”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o Ddeddf 2016, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o Ddeddf 2016 ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
2016 dccc 2; gweler adran 189 am y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.