Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Hefyd, cyflwynodd Deddf 2016 gysyniad newydd o “gwasanaeth rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf honno. Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru (wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol) gan bennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu.

Mae adran 2(1)(e) o Ddeddf 2016 yn darparu bod gwasanaeth maethu yn wasanaeth rheoleiddiedig, sydd wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i olygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath. Mae adran 3(1)(c) o Ddeddf 2016 yn diffinio “darparwr gwasanaeth” fel person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o’r Ddeddf honno i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig.

Mae adran 27 o Ddeddf 2016 yn darparu y caiff rheoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae adran 28 o’r Ddeddf honno yn darparu ymhellach y caiff rheoliadau osod gofynion ar unigolion cyfrifol sydd wedi eu dynodi gan ddarparwr gwasanaeth rheoleiddiedig.

Mae adran 30 o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod, ac mae adran 31 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynghylch darparwyr sydd wedi marw.

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau hefyd er mwyn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth (adran 45 o Ddeddf 2016) ac i unigolyn cyfrifol (adran 46 o’r Ddeddf honno) fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodedig.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 yn nodi’r gofynion cyffredinol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth a’r ddyletswydd gonestrwydd. O dan adran 6 o Ddeddf 2016, rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth maethu rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru y mae person wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ynddo, ac mae Rhan 2 hefyd yn rhoi manylion am ofynion mewn perthynas â dynodi’r unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 3 yn disgrifio’r gofynion y mae rhaid i ddarparwyr gwasanaethau eu bodloni o ran y camau y mae rhaid iddynt gael eu cymryd cyn y caniateir i blentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth. Mae Rhan 4 yn nodi’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn canllaw ysgrifenedig i’w ddarparu i blant a rhieni maeth wrth gychwyn lleoliad.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu bodloni mewn perthynas â safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plentyn a thrin plant â pharch a sensitifrwydd. Mae hefyd yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y cytundeb gofal maeth fel y’u rhagnodir yn Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1333) (Cy. 260), a hybu cyswllt rhwng plentyn a faethir a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn.

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y plant y mae’n eu lleoli gyda rhieni maeth yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu a defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefnau penodol yn eu lle, gan gynnwys y rheini mewn perthynas â bwlio a’r rheini sy’n gymwys pan aiff plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd.

Mae Rhan 7 yn nodi gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau i roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill.

Mae Rhan 8 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff a gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth a dogfennaeth benodol fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau maethu.

Ymhlith y gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 8 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu addas. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd ynddo’i hun yn sail dros achos disgyblu. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyfyngu ar bersonau penodol rhag cael eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth mewn rolau allweddol penodedig.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar sydd i’w defnyddio mewn perthynas â gwasanaethau maethu yn addas ac yn ddiogel.

Mae Rhan 10 yn nodi’r gofyniad i gadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu, ac mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion penodol y mae rhaid eu cadw. Mae Rhan 10 hefyd yn ymdrin â gwneud hysbysiadau i Weinidogion Cymru ac i gyrff eraill, ac mae Atodlen 3 yn rhestru’r hysbysiadau penodol y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud. Mae’r Rhan hon yn gosod gofynion pellach ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â chael polisi cwyno yn ei le, ynghyd â gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw bryderon chwythu’r chwiban y gall aelodau o staff a gwirfoddolwyr eu codi.

Mae Rhan 11 yn amlinellu’r cymorth a’r cynhorthwy arall sydd i’w rhoi i rieni maeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau oruchwylio rhieni maeth a sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau allweddol ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Mae Rhan 12 yn nodi’r gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau y caiff y gwasanaeth ei reoli’n effeithiol. Mae dyletswydd gyffredinol ar yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth ac mae arno ddyletswyddau penodol i benodi person addas i reoli’r gwasanaeth. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth pan yw’r rheolwr yn absennol. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi manylion yr ymweliadau y mae rhaid i unigolion cyfrifol ymgymryd â hwy.

Mae Rhan 13 yn cynnwys gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Hefyd, mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau ac ar faterion eraill. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau hefyd ar gyfer ymgysylltu â phlant ac eraill fel y gall eu safbwyntiau ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gael eu hystyried gan y darparwr.

Mae Rhan 14 yn nodi’r ddyletswydd ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol, gan gynnwys y rheini ar gyfer cadw cofnodion a chofnodi digwyddiadau a chwynion. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol.

Mae Rhan 15 yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer monitro ac adolygu ansawdd y gwasanaeth, ac ar gyfer gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 16 yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud yr hysbysiadau a amlinellir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru, a sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr. Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswydd gonestrwydd ar yr unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 17 yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mewn perthynas â gofynion penodol eraill, mae’r Rhan hon yn darparu bod methiant i gydymffurfio yn drosedd os yw’r methiant i gydymffurfio yn arwain at wneud plentyn yn agored i niwed y gellir ei osgoi, neu’n agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu’n agored i golli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi.

Mae Rhan 17 hefyd yn darparu ei bod yn drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 18 yn pennu’r cyfrifoldebau ar y “person a benodir” os bydd y darparwr gwasanaeth yn mynd yn ansolfent. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi’r camau i’w cymryd gan gynrychiolwyr personol yr ymadawedig os bydd darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn marw. Mae’n galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu fel y darparwr ac yn addasu Deddf 2016 fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru fel darparwr, a gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 19 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o Ddeddf 2016 wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources