Rhagolygol
RHAN 13LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
Goruchwylio digonolrwydd adnoddauLL+C
57.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
(3) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 57 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaethLL+C
58.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—
(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth,
(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac
(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 58 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Ymgysylltu â phlant ac eraillLL+C
59.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,
(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,
(c)rhieni maeth,
(d)yr awdurdod lleoli, ac
(e)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir i blant a sut y gellir gwella hyn.
(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 59 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)