RHAN 16Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol
Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderonI165
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Dyletswydd gonestrwyddI266
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
a
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,
b
rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,
c
rhieni maeth a darpar rieni maeth,
d
yr awdurdod lleoli.
HysbysiadauI367
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.
2
Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
3
Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
4
Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.