Rhagolygol
RHAN 16LL+CGofynion eraill ar unigolion cyfrifol
Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderonLL+C
65. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 65 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Dyletswydd gonestrwyddLL+C
66. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,
(b)rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,
(c)rhieni maeth a darpar rieni maeth,
(d)yr awdurdod lleoli.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 66 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
HysbysiadauLL+C
67.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.
(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(3) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(4) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 67 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)