xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
68.—(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(1).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—
(a)4(3) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),
(b)4(4) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),
(c)8(3) (gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth),
(d)9(1) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),
(e)12(1) (gwybodaeth am y gwasanaeth),
(f)12(2) (gwybodaeth am y gwasanaeth),
(g)12(3) (gwybodaeth am y gwasanaeth),
(h)25 (polisi a gweithdrefnau ar fwlio),
(i)26 (y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd),
(j)30(1) (addasrwydd staff),
(k)33(1) (gwybodaeth ar gyfer staff),
(l)39(1) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),
(m)39(2) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),
(n)40(1) (hysbysiadau),
(o)40(2) (hysbysiadau),
(p)40(3) (hysbysiadau),
(q)40(4) (hysbysiadau),
(r)40(5) (hysbysiadau),
(s)40(8) (hysbysiadau).
(3) Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—
(a)niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i blentyn,
(b)plentyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu
(c)yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan blentyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.
(4) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau—
(a)3 (gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth),
(b)4(1) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),
(c)9(5) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),
(d)11(1) (addasrwydd y gwasanaeth),
(e)11(3) (addasrwydd y gwasanaeth),
(f)13 (safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol),
(g)20 (diogelu),
(h)27(3) (mynediad i wasanaethau iechyd),
(i)29 (staffio – gofynion cyffredinol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 68 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
69.—(1) Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(2).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—
(a)50(1) (dyletswydd i benodi rheolwr),
(b)51(1) (gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr),
(c)54(1) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),
(d)54(2) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),
(e)56(1) (ymweliadau),
(f)56(2) (ymweliadau),
(g)57(1) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),
(h)57(2) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),
(i)58(1) (adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth),
(j)63(4) (adolygiad o ansawdd y gofal),
(k)64(1) (datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth),
(l)67(1) (hysbysiadau), ac
(m)67(4) (hysbysiadau).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 69 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o Ddeddf 2016.
Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o Ddeddf 2016.