Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Rhagolygol

RHAN 18LL+CDarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.LL+C

70.  Rhaid i berson a benodir(1)

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu Gweinidogion Cymru am ei fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 70 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Marwolaeth y darparwr gwasanaethLL+C

71.—(1Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i Weinidogion Cymru, a

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu Gweinidogion Cymru am eu bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)mae adran 21(2) (unigolion cyfrifol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—

(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth maethu yr oedd y darparwr unigol sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu ar adeg ei farwolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 71 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mae i “person a benodir” yr un ystyr ag yn adran 30 o Ddeddf 2016.