xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—
(a)yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a
(b)mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.
14. Os nad yw’r lleoliad sydd wedi ei wneud gan y darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig y plentyn, yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth mwyach, hyd yn oed ar ôl i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r awdurdod lleoli ar unwaith.
15.—(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
(2) Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.
(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
16.—(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith plant.
(2) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.
17.—(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
(a)parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,
(b)parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,
(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a
(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) y plentyn.
18. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.
19. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.